19/10/2011

Yr ail


Rydw i’n teimlo mae hi’n amser mawr i fi ysgrifennu rhywbeth i’r tudalen yma!  Mae pum mis wedi mynd ers yr erthygl gyntaf! Wrth gwrs rydw i’n dal –yn wastad- darllen am Gymru a’r Gymraeg, ddim ond, wel, mae hi’n ychydig mwy anodd  ffindio’r deiliad ac ysgrifennu na darllen. 

Felly, rydw i ‘n gallu dechrau am beth fe fues i’n gwneud yn yr iaith Gymraeg.

Rhosmari a rhosynnau
 * Rydw i wedi fod yn darllen barddoniaeth o’r casgliad o gerddi Cymru yn fy mhen. Dydy hi ddim yn hawdd i fi ddeall barddoniaeth! Mae hi’n mynd i gymryd misoedd i fi i orffen !

Fe gyfieithais i gân Gymreig o’r enw Ar lan y môr eleni.  Mae hi’n farddoniaeth eto! Hyd yn oed os mae hi’n ddymunol fy mod yn gwrando am y  gerddoriaeth, mae hi’n dal yn anodd i fi ddeall a chyfieithu,  felly rydw i’n dod yn ôl un waith ag un waith eto i’r un gerdd. A’r mwy rydw i’n darllen a dod yn ôl i’r gathl yma, y mwy rwy’n moyn wneud cymhariaeth gyda’r hen farddoniaeth o’r oesoedd canol.  Ddoe, fel enghraifft, fe ddes i o hyd i'r un cyfuniad o blanhigion, rhosynnau a lilïau (llinell 6),  yn nhestun o’r drydedd ganrif ar ddeg.

Traeth ym Mergantinhos, Galys.
Mae hi’n fwy anodd adnabod  y genws a’r rhywogaeth y planhigion na ddarganfod enw yng Nghymraeg!  Rydw i’n gallu dysgu Cymraeg hefyd pan rwy i’n mynd i’r coed a’r gors. Wel, fe ddylwn ddweud pan rydw i’n dod yn ôl a rydw i’n defnyddio’r we a’r  Geiriadur Mawr, yr un sydd gyda fi ers y dydd a es i i’r llyfrgell Siop Y Pethe yn Aberystwyth am y tro cyntaf! 'Rydw i’n chwilio am y geiriadur gorau sydd gyda chi i ddysgu'r Gymraeg, os gwelwch chi’n dda', fe ofynais i. Nawr, Prydain ar yr ochr arall i'r môr, mae'r We Fyd-Eang a'r Geiriadur Mawr i ateb.

No comments:

Post a Comment